Tudalen:Coelion Cymru.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a gafodd Mr. Lewis Hughes, Meliden, gan Mr Fredric Jones, Llwyn-y-cosyn, Ysgeifiog. Un min nos teithiai mwynwr o'i waith i bentref Helygain, a heb fod nepell o'i lwybr gwelai yn sefyll fwynwr arall, wedi ei wisgo yn hollol fel mwynwr cyffredin, ac yn ei ddwylo arfau mwynwr. Cyfarchodd ef â "Nos dawch." Eithr ni ddaeth ateb. Dynesodd ato, ond ar amrantiad diflannodd fel diffodd cannwyll. Credai pawb mai ysbryd a welodd y dyn, a chan y credid yn gyffredin fod gweled drychiolaeth ar dir mwynglawdd yn arwydd sicr fod y plwm yn agos, aed ati i gloddio, a thrawyd ar yr wythïen fawr. Ni chaed yng Nghymru ddim cyffelyb iddi o ran maint a gwerth.

Ie, "Ni wyddom beth a allom. Onid oes synhwyrau coll a rhai wedi eu hanner pylu?"