iddo niwed dybryd, ac weithiau fe'i lleddir. Edrydd George Borrow hanesyn am y Gannwyll yn lladd dyn. Cyraeddasai Borrow dafarn Ponty-gŵr-drwg ar ei daith trwy Gymru, a theimlodd y dylai esgyn Pumlumon, ac yfed o ffynhonnau tarddiol Rheidol a Gwy a Hafren. Bore Sul, Tachwedd 5, 1854, tynnodd yn ei ôl trwy Ysbyty Cynfyn, a galw yn nhafarn Dyffryn Castell am gwrw ac arweinydd. Bugail deallus a chynefin â'r mynyddoedd ac â llên preswylwyr eu cilfachau oedd yr arweinydd, ac oherwydd hynny yn ŵr wrth fodd calon Borrow. Yfwyd hyd wala o lygaid yr afonydd, ac ar y daith yn ôl i Ddyffryn Castell am ragor o 'gwrw da,' ymgomiwyd am y Tylwyth Teg a Chanhwyllau Cyrff. Credai'r arweinydd yn gryf yn y naill a'r llall, ac adroddodd hanes dyn a laddwyd ychydig amser cyn hynny trwy fyned i lwybr Cannwyll Gorff a'i chyffwrdd. Dychwelai'r dyn hwnnw o Lanidloes i Langurig ar noswaith dywyll ac ystormus, a chyn gryfed oedd y gwynt a'r glaw a luchid i'w wyneb ag iddo fethu â gweled y Gannwyll a ddeuai i'w gyfarfod. Ni allodd ochel ei llwybr a lladdwyd ef ar drawiad. Tybir yn gyffredin dynnu o Borrow lawer ar ei ddychymyg yn ei wahanol lyfrau, ond dysg Theodore Watts-Dunton, a wyddai yn dda am yr awdur a'i waith, y gellir dibynnu ar yr hanesion a geir yn Wild Wales. Boed hynny'n wir neu beidio, gwn fod ei ddisgrifiad o'r daith o Ddyffryn Castell i Bumlumon yn fanwl gywir, oblegid cerddais yr un llwybrau a gwelais yr un golygfeydd
Tudalen:Coelion Cymru.pdf/75
Gwedd