fwy nag unwaith. Gellir yn ddiamau gredu i'r dyn adrodd yr hanes fel y ceir ef gan Borrow.
Yn y flwyddyn 1923, ysgrifennodd Mr. Thomas Richards, ysgolfeistr Pont-ar-Fynach, i'r Welsh Gazette gyfres o ysgrifau gwerthfawr ar lên gwerin yr ardal, ac yn rhifyn Mehefin 7, dyry hanes Cannwyll Gorff a siglodd gryn lawer ar ei anghrediniaeth. Dywaid iddo ef erioed wawdio'r gred yn y Gannwyll hyd oni ddaeth amgylchiadau i newid ei farn a'i deimlad. Un nos Lun, ymwelwyd ag ef gan Mr. O. P. Williams, athro ysgol Cwm Ystwyth, a rhwng naw a deg o'r gloch hebryngodd ei gyfaill tua'i gartref cyn belled â Gwarfelin, ac yna edrych yn ôl i weled a oedd golwg am gerbyd Cwm Ystwyth yn dychwelyd o farchnad Aberystwyth. Er eu llawenydd, gwelent olau cerbyd yn tynnu i fynu i'r fan y troir i Ddolgrannog. Yn y man collwyd y golau mewn trofa. Disgwyliwyd ei weled eilwaith, eithr ni welwyd ef mwy. Y dydd Sadwrn dilynol yr oedd Mr. Richards a'i briod ar eu taith i Gwm Ystwyth, a phan ddaethant gyferbyn â Botgoll, ar yr hen ffordd uchaf, gwelent angladd yn hollol ar y fan y gwelwyd y golau y nos Lun flaenorol. Ar ôl holi, cafwyd mai claddedigaeth Miss Paul, Goginan, merch y Capten Paul, ydoedd, ar ei ffordd i Eglwys Newydd.
Tua phum mlynedd ar hugain yn gynhyrach ar oes Mr. Thomas Richards, preswyliai yng Nghwm Ystwyth gariwr adnabyddus o'r enw