Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coelion Cymru.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

William Burrell, y Bryn. Cadwai Burrell gerbydau i gario pobl i farchnadoedd a ffeiriau. Pob dydd Sadwrn llogai Mr. Richards a myfyrwyr eraill gerbyd Burrell i'w dwyn i Aberystwyth ar gyfer dosbarthiadau yn y Brifysgol. Un nos Sadwrn, oherwydd bod arholiad, methwyd â chychwyn adref onid oedd yn un ar ddeg o'r gloch, a thuag un o'r gloch y bore, a hwy'n cerdded y rhiw hir o Fwlch-heble i gyfeiriad Llaindegugain, llithrodd y gyrrwr at y myfyrwyr a oedd y tu ôl i'r cerbyd, a gofyn a welwyd gan rai ohonynt olau yn symud o flaen y cerbyd. Ni welsai neb y golau, a cheisiwyd darbwyllo'r gyrrwr mai ei dwyllo a gafodd gan adlewyrchiad o oleuni llusern y cerbyd. Eithr ni thyciai dim. Mynnai ef weled ohono olau dieithr. Y dydd Llun dilynol, lladdwyd Mr. Burrell gan geffyl yn Aberystwyth, ac aed â'i gorff i'w gartref y noson honno yn ei gerbyd ef ei hun. Gofyn Mr. Richards, "Yn awr, beth am y golau a welodd? [1]

Credid yn y Gannwyll Gorff trwy bob rhan o Gymru gynt, ac efallai y gwneir hynny o hyd gan bobl oedrannus. Dywaid "Cymru Fu ": "Y mae'r 'canwyllau' hyn i'w gweled hyd y dydd hwn ym Môn, Dyfed, Dyffryn Clwyd ac iseldiroedd Maldwyn."[2] Ond nid ychwanegir yma fwy na dau hanesyn a gefais gan bersonau sydd eto'n fyw, y naill gan y Parchedig Joseph Jenkins,

  1. The Welsh Gazette (Aberystwyth), Mehefin 7, 1923.
  2. Cymru Fu, td. 297.