Tudalen:Coelion Cymru.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llenor ac awdur adnabyddus, a'r llall gan Mr. E. Lloyd Jones, King's Cross, Llundain.

Ar nos dywyll, a hi'n hwyr rhwng un ar ddeg a deuddeg, dychwelai John Benjamin o garu merch yng Nghwm Ystwyth trwy goed Hafod Uchdryd, Caredigion, a phan gyrhaeddodd y ffordd sydd rhwng y plas a'r Eglwys Newydd, gwelai olau gwelw-las yn dyfod i'w gyfarfod. Rhag ei weled a'i adnabod neidiodd dros y clawdd a sefyll i wylio'r golau. Pan ddaeth y golau hyd ato, gwelai er ei syndod gapten gwaith mwyn yn yr ardal â channwyll wedi ei sicrhau ar ei het galed, yn ôl arfer y mwynwyr. Cerddodd y capten heibio yn syth, â'i lygaid yn gaeedig, i gyfeiriad Eglwys Newydd. Aeth John Benjamin yn oer a llesg a chrynedig gan ddychryn. Trannoeth yn y gwaith adroddodd John yr hanes wrth John Jenkins, tad y Parchedig Joseph Jenkins. Credai'r ddau John y gellid disgwyl rhyw aflwydd ynglŷn â'r gwaith neu gartref rhywun a weithiai ynddo. Ymhen ychydig ddyddiau lladdwyd y capten drwy ddamwain yn y gwaith. Teithiodd yr angladd i fynwent Eglwys Newydd ar hyd ffordd y golau a welodd Mr. Benjamin. Bu Mr. John Jenkins fyw hyd 1925, a thystiai y credai John Benjamin mewn Cannwyll Gorff cyn gryfed ag y credai yn ei Feibl. Y mae'n lled debyg y credai Mr. Jenkins yntau felly. Ym mis Ebrill, 1929, cefais gan Mr. E. Lloyd Jones, Llundain, hanesyn diddorol a wahaniaetha beth oddi wrth hanesion cyffredin am y