Gannwyll Gorff. Nos Sul, Ionawr n, 1918, cydgerddai dwy eneth ieuanc, Miss ---------------, Hafodgau Uchaf, a Miss -----------, Pantyrhedyn, i'w cartrefi o oedfa yng nghapel Pontrhydygroes. Cyn ymadael â'i gilydd safasant am ychydig i ymgomio, ac yn sydyn gwelent olau dieithr yn myned heibio ac yn tynnu at Bantyrhedyn. Aeth y ddwy yn fud gan ofn, a brysio i'w cartrefi. Yr oedd yn amhosibl esbonio'r golau, oblegid bod myned i dŷ yn anghyson ag arfer Cannwyll Gorff, canys ei deddf hi ydyw dyfod 0 dŷ i fynwent. Yn fuan daeth gwybodaeth weled o lawer y golau yn teithio o orsaf Ystrad Fflur i Bontrhydygroes, pedair milltir o daith.
Yr oedd John Evans, mab Pantyrhedyn, yn gweithio ar y pryd ym Morgannwg, ac yn Ionawr, 1918, bum niwrnod wedi gweled y golau, bu farw trwy ddamwain yn y gwaith. Daethpwyd ag ef i'w hen ardal i'w gladdu, a theithiwyd o orsaf Ystrad Fflur filltir heibio i'r fynwent i Bantyrhedyn, i orffwys tros y nos yn yr hen gartref. Yr oedd y ddwy ferch a welodd y golau yn fyw yn 1929. Yn ei lyfr ar Ofergoelion, dywaid y Doctor William Howells y credid yn gyffredin yng Nghymru gynt mai merthyrdod un o hen esgobion Tyddewi oedd achos cyntaf cynnau'r Gannwyll hon. Tra llosgai corff yr Esgob, gweddïai am i Dduw beri gweled y golau o flaen marwolaeth pawb, yn dystiolaeth ddarfod iddo ef farw yn ferthyr.[1]
- ↑ Cambrian Superstitions, William Howells (1831), td. 60.