Y TOILI. Yn ôl y gred gyffredin gynt, un o arwyddion sicraf marwolaeth oedd y Toili. Gwelid ef gan gannoedd, a hynny yn aml yn yr hen amser. Ceid y goel trwy Gymru gyfan, eithr tan enwau gwahanol. Dywedai'r Canon D. Silvan Evans mai'r enw a roid arno mewn rhannau o Ddeheudir Cymru oedd Tolaeth neu Dolaeth, a thybiai ef mai llygriad o Tylwyth ydyw. Yn Sir Gaerfyrddin, Toili a ddefnyddir, a'r un gair, wedi newid y llythyren o am a geir mewn rhannau o Sir Aberteifi. Enw ar ysbryd claddedigaeth ydyw. Tua thrigain mlynedd yn ôl, peth digon cyffredin ydoedd cyfarfod yn y nos ag ysbryd claddedigaeth, ac er mai eithriad yw ei gyfarfod yn awr, gwn am rai sydd eto'n fyw a gafodd y fraint, a gwn am eraill nas gwelsant a gred yn gryf ynddo. Efallai—pwy a wyr?— fod y Toili ar ein llwybrau eto'n awr, ond ein bod ni gan gymaint ein goleuni yn methu â'i ganfod.
Pan oedd Twm o'r Nant yn cadw Tyrpeg yn Llandeilo Fawr, ar y ffordd i Nantgaredig a Chaerfyrddin, gwelodd ef y Toili ac amryw bethau hynod eraill. Gwell fydd rhoddi ei eiriau ef ei hun. "Ni a fyddem yn gweled llawer yn y nos yn myned trwodd heb dalu; sef y peth a fyddent hwy yn ei alw y Gyheureth neu ledrith; weithiau hersiau a mourning coaches, I ac weithiau angladdau ar draed, i'w gweled mor I amlwg ag y gellir gweled dim, yn enwedig liw 'nos. Mi welais fy hun ryw noswaith, hers yn