Tudalen:Coelion Cymru.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

myned trwy'r gate, a hithau yng nghauad; gweled y ceffylau a'r harneis, a'r hogyn postilion a'r coachman, a'r siobau rhawn fydd ar dopiau hers, a'r olwynion yn pasio'r cerrig yn y ffordd fel y byddai olwynion eraill; a'r claddedigaethau yr un modd, mor debyg, yn elor ac yn frethyn du, neu os rhyw un ieuanc a gleddid, byddai fel cynfas wen; ac weithiau yn gweled canwyll gref yn myned heibio."[1]

Un nos dywyll yr oedd Mr. David Morgan yn tynnu at ei gartref ym Manc-y-Môr, Cnwch Coch, a thybiai glywed sŵn cerdded torf gref o gyfeiriad tŷ a oedd gerllaw, a elwid Llain. Yn fuan daeth canu wylofus-canu ar yr hen emyn, " Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau." Yn crynu gan ofn, aeth Mr. Morgan i'w dŷ cyn gyflymed ag y medrai, a hysbysu'r teulu o'r hyn a glywsai. Cynghorwyd ef i alw gŵr y tŷ nesaf. Aeth y ddau i gyfeiriad y canu, a chael mai Toili oedd yno yn llenwi'r ffordd. Blwyddyn i'r diwrnod hwnnw claddwyd gwraig y Llain, ac aeth yr angladd ar hyd yr un ffordd gan ganu " Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau." Ÿ mae Mr. David Morgan yn fyw yn awr, a chefais yr hanes yn 1921 gan ei ferch, Mrs. J. E. Jones, Aberystwyth.

Y mae hanes a adroddai'r Parchedig Joseph Jenkins yn 1929 yn sôn am beth cyffelyb. Yn hwyr ar nos dywyll dychwelai Thomas Morgan, Tan-yr-allt, Pontrhydygroes, o dŷ un o'i

  1. Twm o'r Nant, (Cyfres y Fil) (1909) (Cyf. I.), td. 20.