≥ "Stori Drychiolaeth yw hon, wedi ei hadrodd i mi'n bersonol gan y person a welodd ac a glywodd. Rhys Evans oedd ef, a aned ac a fagwyd yn Eglwysfach, Ceredigion. Bu fyw wedi hynny ym Machynlleth, a phan adnabûm i ef yr oedd yn flaenor gyda'r Wesleaid yn Ynysybwl. Morgannwg.
"Dyn ieuanc ydoedd pan ddigwyddodd y pethai a adroddai wrthyf, ac yn 'cadw cwmni' â merch a wasanaethai yn ffermdy Caerhedyn, ryw filltir dda o'i gartref, ar odre'r pentref ar fin y ffordd o'r Cei sydd islaw Castell Glandyfi.
"Un noson yn hwyr iawn, dychwelai o garu yng Nghaerhedyn. Gwyddai fod llong fechan yn y Cei ar y pryd yn llwytho barc. Pan oedd ar ei ffordd adref, ac ar gyfer y Cei, clywai ganu yn y cywair lleddf. Ac yntau'n gwybod yr arferai morynion y Castell ddyfod i lawr weithiau i dreulio noson lawen gyda'r morwyr, tybiodd mai felly yr oedd y noson hon, a gwaeddodd: ' Ewch adre'r tacle yn lle cadw pobl yn effro ganol nos fel hyn.' Ni ddaeth un ateb. Yna clywai sŵn megis lliaws yn ymsymud, a gwelai rith tyrfa fechan yn cyfeirio at y ffordd fawr ar hyd ffordd gul a arweiniai o'r Cei. Ni wyddai yn ei fyw pa beth i'w wneuthur. Gwelai, os âi yn ei flaen, y byddai'n sicr o gyfarfod yr hyn a oedd yno, a daeth ofn a chryndod arno. Yr oedd yn tynnu at ganol nos, a'r wlad tan dawelwch dwfn ag eithrio sŵn cerdded yr orymdaith fach. Petrusodd a sefyll, ac yna symud megis o'i anfodd.