Tudalen:Coelion Cymru.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fel y dynesent at ei gilydd, gwelai yn eglur mai Toili oedd yno. Wedi dyfod yn agos, clywai'r arch yn gwegian ar yr elor. Dechreuodd y canu eilwaith, canu tyrfa wan a chanu wylofus. Dilynodd yntau r orymdaith tu draw i'w gartref a thrwy'r pentref hyd at lidiart y fynwent. Yr oedd rhyw drymder llethol yn yr awyr, a phawb yn symud yn araf a mud. Ymhen ysbaid gwelai'r eglwys, ac yr oedd yn llawn golau. Er ei syndod a'i fraw, gwelai hefyd olau yn ei gartref ef ei hun, a bu bron a syrthio. Galwodd yn uchel ar ei fam a cheisio ganddi ddiffodd y golau, oblegid clywsai od âi dyn i'r golau ar ôl gweled ysbryd, y llewygai a myned fel marw. Pa fodd bynnag, nid oedd y gweiddi i ddim pwrpas. Cysgai'r fam yn drwm a methwyd â'i deffroi. Teimlai Rhys Evans druan, yn ei ddychryn mawr, nad oedd dim yn aros iddo namyn mentro i'w gartref. Aeth i mewn, a'r munud hwnnw, yn y golau, syrthiodd i lewyg. Ni wybu fyth pa fodd y llwyddodd i ddringo i'r llofft ac i'r gwely.

Yn fuan ar ôl y weledigaeth hon, daeth i'r Cei un o'r llongau bychain am lwyth o farc. Arferid cario beichiau trwm o'r barc o'r tir i'r llong, yr hyn oedd waith caled. Un diwrnod, a hwy yn llwytho, syrthiodd bachgen ieuanc o Wyddel tan ei faich rhwng y llong a'r Cei, a boddi. Galwyd gweinidog Wesle o Fachynlleth i wasanaethu yn yr angladd. Canwyd ar fwrdd y llong fach, a digwyddodd popeth fel y rhagddangoswyd gan y Toili,"