Nid oes dim yn fwy o werth mewn llên gwerin na phendantrwydd, Pan geir hanes â'r enwau a'r dyddiadau a berthyn iddo yn bendant, dylid diogelu'r hanes hwnnw. Pwysig hefyd ydyw hanes a gredir fel ffaith sicr gan bersonau sy'n awr yn fyw, ac nid gan rai a fu farw ganrif neu ddwy yn ôl. Perthyn yr holl nodweddion hyn i'r hanesyn a ganlyn, a gefais gan Mr. Evan Jones, King's Cross, Llundain, Gorffennaf 3, 1929.
Milltir dda i'r deau o Bontrhydygroes, Ceredigion, ffìnia â'i gilydd ffermydd Hafodgau Uchaf a Phantyffynnon Uchaf. Yn yr haf pawr y gwartheg ar y mynydd, ac weithiau crwydrant tan bori filltir neu ragor oddi wrth y tai. Un min nos anfonwyd Mr. Evan Jones, mab Hafodgau, a Mr. John Jenkins, mab Pantyffynnon, i gyrchu'r gwartheg i'w godro. Cafwyd y gwartheg, ac a'r ddau fachgen ar gychwyn yn ôl, safent ar fryncyn a elwir Pencwarel, yn wynebu cors eang a ymgyfyd yn raddol at odre mynydd yr ochr bellaf oddi wrthynt. Ar ucheldir yn y fan honno yr oedd lluesty bychan o'r enw Seren, lle preswyliai hen ŵr o'r enw William Thomas a oedd yn wael ei iechyd ers peth amser. Yn sydyn ac annisgwyliadwy, clybu'r bechgyn o gyfeiriad y Seren ganu wylofus ar yr hen emyn, "Bydd myrdd o ryfeddodau." Edrychodd y ddau ar ei gilydd, ac yna i gyfeiriad y canu, a gweled clwstwr o bobl yn symud yn araf oddi wrth y tŷ. Dychrynwyd y llanciau, ac yn eu hofn rhedasant y gwartheg i'w cartrefi. Deallodd y mamau wrth y godro redeg