Tudalen:Coelion Cymru.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GWENYN YN RHAGFYNEGI. Rhoddid unwaith goel gref ar wenyn a'u harferion. Hwy a roddai un o'r arwyddion cyntaf o farwolaeth y penteulu, naill ai drwy iddynt oll farw yn y cwch neu ynteu gilio ohono. Y mae yn y Llyfrgell Genedlaethol lawysgrif nad yw'n hen a rydd yr hanesyn hwn. " Tua deugain mlynedd yn ôl bu farw gwenyn dau gwch a berthynai i dŷ yn Nyffryn Clwyd, ac yn fuan wedyn bu gŵr y tŷ (a oedd yn amaethwr ar radd eang) farw. Hyd y dydd hwn y mae'r cychod hynny yn wag, a'r mynedfeydd iddynt wedi eu cau, rhag i wenyn eraill fyned iddynt a gwneuthur tro cyffelyb â'r teulu. Y penteulu presennol yw mab y meistr a fu farw."[1]

Ni wn am neb a gâr Ganu Ceiliog ganol nos. Y mae rhywbeth annaturiol ynddo, ond o brin y gellir credu mai gwybodaeth oruwchnaturiol sydd wrth wraidd ei ganu. Eithr nid creadur cyffredin mo'r ceiliog, a theimla yntau hynny. Mor fonheddig y brasgama'n uchel ac esmwyth, a'r fath her sydd yn ei ganu croch! Cystal gennyf "Geiliog Pen-y-Pas" yr Athro Parry-Williams â dim sydd yn ei Ysgrifau.[2] Od oes ddiffyg, dyna yw hwnnw, peidio â sôn am fri ei ddawn broffwydol yn nyddiau'i nerth. Pair holl osgo ceiliog gredu ei fod o radd uwch na'r sawl a fo'n edrych arno, a bod yn ei feddwl balch gyfrinachau na ddaethant erioed i feddwl dyn. Dyna, efallai, seiliau ffydd y wlad yn ei allu i ragfynegi marwolaeth.

  1. Llyfr. Gen., Llsgr. 5654.
  2. Ysgrifau, Yr Athro T. H. Parry-Williams (1928), td. 24.