Tudalen:Coelion Cymru.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Credid gynt, a chredir yn awr gan lawer, fod canu ceiliog drymder nos yn arwydd difeth o farwolaeth rhywun. Pe gwelid y ceiliog tra cân, gellid yn lled agos enwi'r person a elwir nesaf i'w gyfrif, oblegid y mae pig y ceiliog bob amser yng nghyfeiriad preswylfod hwnnw. Deugain mlynedd yn ôl deffrowyd Dafydd Rodrig, Tan'rallt," Taliesin, ar hanner nos gan y canu, ac yn ei ddychryn galwodd ar y forwyn o'i gwely i edrych i ba gyfeiriad yr oedd pig y ceiliog. Nid oes neb a gâr ganu ceiliog liw nos. Paham, tybed? Llawer ceiliog gwych, ac o dras uchel, a ddienyddiwyd oherwydd ei ganu anamserol.

CI YN UDO. Gwaith hawdd i'r sawl a gred yng ngallu ceiliog yw gweithredu ffydd yng ngwybodaeth a doethineb ci, oblegid o'r holl anifeiliaid, nid oes fwy na dau sydd cyn galled ag ef. A phwy a adwaen ddyn yn well, ac a deimla gymaint o ddiddordeb ynddo? Peth rhesymol yw rhoddi coel ar arferion cŵn, ac os credir yn ofer weithiau, ni ddaw i'r cŵn na neb arall niwed o hynny. Credai'r tadau, a chred llawer o'u plant eto, mai peth anffodus a difrifol i'r eithaf ydyw udo ci ar ôl machlud haul. Ni chyfarfûm i erioed â neb yn unman, na doeth nac annoeth, a hoffai udfa ci wedi nos.

Gwelais roddi tri rheswm tros udo'r ci,—1, Gall ci weled ysbryd a'i ofni; 2, Mor dreiddgar yw ei arogli fel y gŵyr pan ddynesa marwolaeth; 3, Mor graff yw ei welediad fel y gwêl angel marwolaeth.[1]

  1. 1 Llyfr. Gen., Llsgr. 5653.