VI.
LLYNNOEDD A FFYNHONNAU
Y mae'r nodweddion yn gyffredin i amryw onid y mwyafrif o draddodiadau lluosog y llynnoedd, ac nid oes alw am draethu arnynt i gyd. Cyfeirir at y rhai enwocaf.
Ni chyfeiliornir yn fawr trwy wneuthur dau ddosbarth o'r traddodiadau, sef y rhai a ddysg am ddialedd, a'r rhai a ddwg i mewn ymyriadau'r Tylwyth Teg. O dro i'w gilydd, claddwyd tan ddwfr wlad neu ddinas neu blasty oherwydd anlladrwydd neu droseddau moesol eraill; ac y mae llynnoedd eraill yn enwog oherwydd y rhan sydd i'r Tylwyth Teg yn eu hanes.
Ni wneir yma fawr mwy na chrybwyll y traddodiad hysbys am orlifiad Cantre'r Gwaelod. "Gweirglodd-dir cnydfawr llawn o ffrwythau a blodau oedd Cantre'r Gwaelod," medd " Cymru Fu." Tir isel ydoedd, â gwrthglawdd yn cadw allan y môr rhag ei foddi. I'r gwrthglawdd yr oedd llifddorau a wylid yn ddyfal gan swyddogion penodedig â Seithennin yn ben arnynt. Yr oedd yn y Cantre un ar bymtheg o ddinasoedd a threfi gwych, a Gwyddno Garanhir yn dywysog ar y wlad. Gan fod y tir yn gnydfawr a'r cyfoeth yn ddibrin, aethai'r trigolion yn foethus a diofal, ac un diwedydd cafwyd gwledd fawr. Yn y wledd,