Tudalen:Coelion Cymru.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yfodd Seithennin a swyddogion eraill win hyd fedd-dod diymadferth. Esgeuluswyd cau'r llifddorau, a rhuthrodd y môr i'r tir. Boddwyd y wlad, ac ni ddihangodd ond ychydig o'r trigolion i'r ucheldiroedd. Pan fo'r môr yn dawel a gloyw, gwelir heddiw ym Mae Ceredigion, o ymyl y Wallog, rhwng Aberystwyth a'r Borth, sarn a elwir yn Sarn Cynfelyn yn ymestyn am filltiroedd i'r môr. Gwelir hefyd yma a thraw yn y bae rai o'r plasau, ac ar brydiau clywir canu clychau eglwysydd.

Nid oes raid manylu ond ychydig i weled y cysylltir traddodiad cyffelyb ag amryw lynnoedd trwy Gymru. O'r hyn lleiaf ni wahaniaetha'r traddodiadau namyn o ran manion dibwys. Yn y dosbarth hwn gellir gosod Llyn Tegid, Tyno Helig, Syfaddon, Llynclys ac eraill.

LLYN TEGID, NEU LLYN Y BALA. Yn ôl un traddodiad y mae'r llyn hwn yn gorchuddio tref gyfan, eithr y mae'n haws credu mai boddi llys pendefig a wnaed. Preswyliai gerllaw'r Bala, mewn castell gwych, dywysog balch a chreulon. Nid ofnai ac ni pharchai na dyn na Duw, a chymaint oedd ei ormes ar bum plwyf Penllyn fel nad oedd ym Meirion neb na hoffasai ei ddinistr. Un diwrnod, a'r tywysog yn ymbleseru yn ei ardd, clywai lais yn gweiddi, " Daw dial." Chwerthin yn ddihidio a wnaeth ef. Bu fyw am flynyddoedd mewn rhwysg a gloddest heb argoel adfyd. Priododd, a ganed mab iddo. I ddathlu dydd