Tudalen:Coelion Cymru.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

geni'r etifedd cynhaliodd wledd fawr. Yr oedd pobl flaenaf Meirion yn y wledd yn dawnsio a chanu a meddwi. Ar gyfyl hanner nos, ar seibiant yn y dawnsio, tybiodd y telynor iddo glywed sibrwd yn ei glust, " Dial, dial." Trodd a gweled aderyn bach yn ehedeg yn ôl a blaen trwy'r neuadd. Amneidiodd yr aderyn ar y telynor i'w ddilyn—gall aderyn goruwchnaturiol wneuthur peth felly. Tywyswyd y telynor tros waun a rhos a chreigiau, a dal i ganu " Dial, dial," a wnâi'r aderyn. Cyrhaeddwyd pen bryn beth pellter o'r Castell. Yn ei ludded gorffwysodd yr hen delynor a chysgu. Pan ddeffrôdd ar doriad y wawr ni welai'r Castell, dim ond llyn mawr yn llanw'r dyffryn.[1]

Llyn Llynclys. Sôn am ddialedd a wna'r traddodiad hwn yntau. Yn ôl cred a dysg y werin, preswyliai teulu llygredig a mawr ei drais mewn llys urddasol, a chamdrinid yn greulon drigolion y wlad. Yr oedd i'w gwyliau a'u gwleddodd rwysg anarferol. Ymgasglai pawb o bwys i'r gwleddoedd hyn—rhai o fodd ac eraill o raid. Ni ellid gwrthwynebu ac ymgadw draw canys ofnid dialedd y teulu. Ym mhob gwledd a gŵyl, er cymaint y gloddestu a'r meddwi, clywai rhywrai lais annaearol o gwmpas y tŷ yn llefain yn ddibaid, " Daw dial, daw dial." Ofnai pawb ymofyn â'r llais pa bryd y deuai'r dialedd. Parhawyd am rai blynyddoedd i glywed y llais ac i ofni'r

  1. Chwedlau Cymru, Rachel W. Ellis, td. 88.