Tudalen:Coelion Cymru.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

adfyd, ond o'r diwedd daeth i'r llys eneth o forwyn wrolach na'r cyffredin a mentro gofyn, "Pa bryd?" Atebodd y llais, "Yn oes wyrion, gorwyrion, esgynnydd a goresgynnydd." Yna bu tawelwch digymysg; ni alwodd y llais mwyach. Daeth dydd y goresgynnydd, ac un noson cadwodd ŵyl fawr yn ôl hen arfer y teulu. Tua chanol nos digwyddodd y telynor fyned allan o'r llys, a phan drodd ei wyneb i ddychwelyd ni welai mo'r plas. Nid oedd onid llyn lle safasai'r llys, a nofiai'i delyn yntau ar wyneb y dŵr. Y mae'r llyn hwn rhwng Croesoswallt a Llanymynaich.[1]

LLYN HELIG A LLYN SYFADDON. Y mae'r naill yn Sir Gaernarfon a'r llall ym Mrycheiniog, ac nid oes fawr ddim gwahaniaeth rhwng y traddodiadau sydd ynglŷn â hwy. Dialedd am ryfyg a thrais a geir yn y rhai hyn eto.

Pendefig rhyfygus oedd Helig ap Glannawg. Clywsai dair bloedd yn yr awyr, "Daw dial, daw dial, daw dial." Gofynnodd yntau, "Pa bryd?" Atebodd y llais, "Yn amser dy blant, dy wyrion a'th ddisgynyddion." Yn hwyr un nos, pan gyrhaeddodd y pendefig oedran henwr, aeth y forwyn i'r seler i gyrchu diodydd, a chanfu'r môr yn araf lifo trwy'r lloriau a'r muriau. Yn ei dychryn rhuthrodd i rybuddio'i chariadfab, y telynor, a ffodd y ddau am eu bywyd. Boddwyd Tyno Helig a'i holl gynnwys.[2]

  1. Y Brython, Cyf. V., td. 338.
  2. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, H. Derfel Hughes 1866), td. 10.