LLYN Y MORYNION. Un adeg ymhell bell yn ôl, gwnaed Ardudwy mor denau ei phoblogaeth gan ryfeloedd fel y bwriodd y llanciau a oedd weddill eu pennau ynghyd, a phenderfynu myned i Ddyffryn Clwyd a cheisio yno wragedd i'r diben o adboblogi Ardudwy. Llwyddasant i ddenu amryw o'r merched harddaf i'w dilyn. Daeth yr helynt yn fuan i glustiau meibion Dyffryn Clwyd, ac ymlidiasant yr ysbeilwyr a'u goddiweddyd yn ymyl Bwlch-y-Wae ym mhlwyf Ffestiniog. Aeth yn ymladdfa waedlyd. Gwyliai'r morynion y frwydr oddi ar fryncyn cyfagos, ac o weled colli o wŷr Ardudwy y dydd, cilio ar frys a wnaethant a'u boddi eu hunain mewn llyn a oedd gerllaw. Lladdwyd holl wŷr Ardudwy, a'u claddu yn y man a elwir Beddau Gwŷr Ardudwy. Gelwir y llyn byth er hynny yn Llyn y Morynion.[1]
LLYN NELFERCH (MORGANNWG). Y mae'r llyn hwn tua hanner y ffordd rhwng ffermdy Rhondda Fechan a Dyffryn Safrwch, ym mhlwyf Ystrad Tyfodwg. Gelwir ef hefyd weithiau yn Llyn y Forwyn.
Un bore o wanwyn, a mab Rhondda Fechan yn tramwy'r mynydd, gwelodd ferch fonheddig yn rhodio ar fin y llyn gyferbyn ag ef. Dynesodd ati, ac o siarad â hi cael y preswyliai yn y llyn. Hoffodd hi ar unwaith, a cheisiodd ganddi fod yn briod iddo. Gwrthod a wnâi hi ar y cyntaf, ac am
- ↑ Casgliad, o Lên Gwerin, William Davies, Cyf. Eist. Ffestiniog (1898).