beth amser. Eithr gorfu ei serch a'i daerineb ef. Cydsyniodd â'i gais, ac addo dwyn gyda hi o'r llyn ei holl wartheg a'i lloi, a bod yn briod ffyddlon iddo oni chwerylai â hi deirgwaith. Buont fyw yn ddedwydd am flynyddoedd lawer, ond bu cweryl, ac ail, a thrydydd. Un bore ar doriad gwawr clywid hi'n galw ei gwartheg:
"Prw dre', prw dre', prw'r gwartheg i dre',
Prw Milferch, a Malfach, pedair Llualfach,
Alfach ac Ali, pedair Ladi,
Wynebwen drwynog, tro i'r waun lidiog,
Trech-llyn y waun odyn, tair Pencethin,
Tair caseg ddu draw yn yr eithin."
Suddodd y foneddiges a'i hanifeiliaid i'r llyn, ac ni welwyd hwy mwy.[1]
LLYN BARFOG (MEIRIONNYDD). Y mae'r llyn hwn yn y mynydd sy'n gefndir i Aberdyfi. Cysylltir ef ag Annwn, y pwll diwaelod, lle trig Gwyn ap Nudd. Yn yr hen amser ymwelai gwragedd Annwn, wedi eu gwisgo â gwyrdd ac yn cael eu dilyn gan eu gwartheg a'u cŵn, yn fynych â'r llyn. Llwyddodd amaethwr i ddal un o'r gwartheg a'i dwyn i'w faes ei hun. Yn fuan profodd y fuwch na fu yn y wlad erioed ei bath am laetha a magu lloi braf a drudfawr. Ar ei phwys hi llwyddai'r amaethwr ym mhopeth a wnâi, ac ymgyfoethogodd. Pob yn ychydig aeth y dyn yn bwysig yn ei feddwl ei hun, ac yn ddiofal yn ei
- ↑ The Folklore of Glamorgan, T. C. Evans (Cadrawd), Cyf Eist. Gen. Aberdâr (1885).