Tudalen:Coelion Cymru.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hawddfyd. Ymfalchïodd yn ei ystâd, a myned yn ddihidio o'i rwymedigaeth i'r 'fuwch gyfeiliorn'. Cymaint oedd ei gyfoeth ag y teimlai y gallai fforddio byw hebddi. Penderfynodd ei phesgi a'i lladd. Pesgwyd hi onid aeth yn gruglwyth mawr. Daeth dydd y lladd, ac ymgasglodd tyrfa anferth o'r siroedd cylchynol i weled y diwedd. Torchodd yr amaethwr ei lewys, a brathu ei gyllell i'r fuwch â'i holl nerth, ond nid i ddim pwrpas. Brathodd drachefn a thrachefn, eithr ni niweidiai flewyn o'r fuwch, a daliai hithau i gnoi ei chil yn hamddenol. Yn sydyn dyna floedd a grynai'r bryniau. Yr oedd gwraig mewn gwyrdd, â'i breichiau i fyny, yn sefyll ar graig uwch y llyn ac yn galw:

"Dere di felen Einion,
Cyrn Cyfeiliorn, Braith y Llyn,
A'r Foel Dodin;
Codwch, a dewch adre'."

Ar drawiad i ffwrdd â'r fuwch a'i hiliogaeth, â'u cynffonnau i fyny, i gyfeiriad Llyn Barfog. Rhuthrodd yr amaethwr yntau i ben bryn, a gweled y wraig mewn gwyrdd wedi ei hamgylchu gan y fuwch a'i lloi yn suddo i'r llyn. Trodd y byd yn erbyn yr amaethwr, a'i wneuthur y tlotaf yn y wlad.[1]

MOEL LLYN (CEREDIGION). Y mae traddodiadau'r llynnoedd i gyd yn hen, a gŵyr y sawl sydd gyfarwydd â llên gwerin y cynhwysir hwy,

  1. Y Brython, Cyf. III. (1860), tud. 183.