Tudalen:Coelion Cymru.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bron o angenrheidrwydd, ym mhob casgliad Cymraeg a wnaed. Ond nid wyf yn meddwl i'r traddodiad am y llyn hwn fod erioed mewn llyfr o fath yn y byd.

Rhyw bum milltir o bentrefi Tal-y-bont a Thaliesin, Ceredigion, i gyfeiriad Pumlumon, y mae mynydd syth ac uchel. O'i sawdl i gyfeiriad y gogledd, ac ar fin gwaun Cae'rarglwyddes, tardd afon Cletwr, a ymarllwys i Ddyfi. I gyfeiriad y deau llithra'r mynydd yn gyflym i gwm dwfn, ac o'i odre y tardd afon Ceulan sy'n llifo i Eleri. Y mae pen y mynydd yn lled gul, ac arno ddwy garnedd fawr. Rhwng y ddwy garnedd, bellter cyfartal o'r naill a'r llall, y mae llyn. Defnyddid y carneddau gan yr hen Gymry i bwrpas milwrol, a chredir i Glyndŵr wersyllu ar y mynydd. Nid oes yn yr holl wlad fan addasach at bwrpas byddin, oblegid gwelir yn glir i bob cyfeiriad am filltiroedd, ac anodd fyddai i elyn ddynesu heb ei weled. Gwelid hefyd dân y carneddau o Bumlumon a Chader Idris a Phen Dinas (Aberystwyth).

Y mae cryn ddirgelwch ynglŷn â'r llyn oherwydd llawer o bethau anesboniadwy. A mesur wrth olwg y llygaid, ei hyd ydyw ugain llath, ac ar draws, yn ei fan lletaf, y mae tua decllath. Nid yw'r grisial fawr gloywach na'i ddwfr, ac y mae blas mawn yn drwm arno. Nid oes ddafn yn rhedeg iddo nac ohono. Y mae'n llyn hunanddigonol ac anghyfnewidiol. Gwelais ef yng ngaeaf 1936, ac yr oedd yn llawn, ond dywedai