cyfaill a oedd gyda mi nad oedd dim gwahaniaeth rhyngddo a'r hyn ydoedd pan welodd ef ar ganol sychder haf. Yr oedd yn llawn y pryd hwnnw hefyd. Haf a gaeaf, sych a gwlyb, yr un faint yw cynnwys y llyn.
Yn ôl traddodiad, diogelir Moel Llyn rhag ymyriadau dynol gan ryw allu goruwchnaturiol. Dechrau Medi, 1936, cefais hanes diddorol gan Mr. Richard Griffiths, Llythyrdy, Tal-y-bont; cafodd yntau ef gan ei dad. Y mae Mr. R. Griffiths yn ddyn diwylliedig, yn llenor parchus, ac yn gerddor gwych. Melinydd oedd ei dad, William Griffiths, yn cadw melin yng ngwaelod pentref Tal-y-bont, a chael iddi ddwfr o Eleri. A'r un adeg gweithiai ei ewythr, Humphrey Jones, brawd ei dad, felin Penpompren, ar flaen uchaf y pentref, a chael dŵr o Geulan. (Ni ŵyr Mr. Griffiths paham y gelwid y naill frawd yn Griffiths a'r llall yn Jones). Un haf ni chafwyd glaw am wythnosau, a sychodd Ceulan, a methwyd gweithio'r felin. Ymgynghorodd Humphrey Jones â'i frawd ac eraill, a phenderfynwyd gollwng Moel Llyn i afon Ceulan, a chael felly ddŵr i felin Penpompren. Aed i'r mynydd ar ddiwrnod hafaidd a'r awyr yn las, a dechrau agor ffos i ollwng y llyn. Ymhen ychydig, ymffurfiodd cymylau trwm ac isel yn yr awyr, daeth prudd-der i'r mynydd, fflachiodd mellt gwyllt, a rhuodd taranau. Credent y byddai'r storm yn malu'n yfflon y carneddau a'r creigiau o'u hamgylch. Dychrynodd y dynion a dianc am eu heinioes.