Tudalen:Coelion Cymru.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ym mhen deau 'r llyn y mae tua phedair llath o ôl y ffos i'w gweled yn awr. Bu'r digwyddiadau uchod, yn ôl amcangyfrif Mr. R. Griffìths, tua chwe ugain mlynedd yn ôl.

LLYN Y FAN FACH (SIR GAERFYRDDIN). Yn ôl Syr John Rhys, stori'r llyn hwn yw'r gyflawnaf o storïau'r llynnoedd, ac â hi y gellir orau gymharu'r gweddill.

Yn y ddeuddegfed ganrif preswyliai gwraig weddw a'i mab ym Mlaensawdde, Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin. A'r mab un dydd yn bugeilio'r anifeiliaid, gwelai, er ei syndod, forwyn hardd yn eistedd ar Lyn y Fan Fach, ac yn cribo'i gwallt llaes. Sylwodd y ferch ar ei graffu a dynesu at fin y llyn. Cynigiodd yntau iddi'r bara haidd a'r enllyn a roddasai ei fam iddo wrth adael cartref. Swynwyd ef gymaint gan harddwch y forwyn fel y parhaodd yn hir i gynnig iddi'r ymborth. Llefarodd hithau:

" Cras dy fara,
Nid hawdd fy nala."

Ac ar drawiad suddodd tan y dŵr a gadael y llanc yn syn a siomedig.

Dychwelodd y mab i'w gartref a mynegi i'w fam y weledigaeth swynol a gafodd, a'r siom o golli'r ferch. Hithau a dybiodd y gallai fod yn y bara cras rywbeth a barai iddo fod yn ddi-flas i'r forwyn ac yn dramgwydd iddi. Bore trannoeth rhoes i'w mab does amrwd i'w gynnig. Aeth yntau eilwaith at fin y llyn a disgwyl. Ymhen rhai oriau ymddangosodd y ferch drachefn. Y