Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofeb y Dewrion (Heroes'Memorial) Bangor 1914-18.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE HUGH HARRIS WILLIAMS.

Dyma ddarlun o fachgen ieuanc hoffus ac annwyl iawn gan ei rieni, Mr. a Mrs. William Williams, 10 Strand Street, Hirael, Bangor. Gyda'r King's Liverpool Regiment yr anfonwyd y cyfaill hwn i Ffrainc, Mawrth 14, 1917, ni bu yno ond ychydig ddyddiau, a thorrodd ei iechyd i lawr, ac anfonwyd ef yn ol i'r wlad hon, ac i'r Ysbyty Milwrol yn Halifax, lle y bu farw Mai 14, 1917, ac a gladdwyd ym mynwent gyhoeddus Glanadda, Bangor, y dydd Iau canlynol, yn 35 mlwydd oed.

Yn dy law, er mewn tywyllwch,
Ni bydd ofn o dan fy mron;
Er mor arw yw'r anialwch,
Teithio mlaen a wnaf yn llon.
Byth nid ofnaf
Yng nghwmpeini Brenin nef.

—W. J. OWEN. (Afallon.)