Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SAPPER SAMUEL MARSHALL WILLIAMS.
Dyma ddarlun o fab Mr. a Mrs. William Williams, 65 Orme Road, Bangor. Cyn ymuno â'r milwyr i amddiffyn ei wlad, yr oedd yn swyddog ffyddlon a chywir yn y Post Office. Perthynai ef i'r Royal Engineers, 2nd Wireless Signal Squadron. Aeth drosodd i Mesopotamia, a chymerwyd ef yn wael o'r Malaria. Anfonwyd ef i'r Ysbyty yn Kasvin, lle y bu farw Hydref 13, 1918, ac a gladdwyd ym mynwent Filwrol y lle hwnnw, pan yn 22 mlwydd oed.
Elw mawr yw grym duwioldeb
Yn y byd a'r bywyd hwn.
Ei feddiannu sy'n fwy trysor
Na meddiannu'r byd yn grwn;
Dyro i ni
Arglwydd Iesu yr awr hon.
—W. J. OWEN. (Afallon.)