Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofeb y Dewrion (Heroes'Memorial) Bangor 1914-18.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BOMBARDIER WILLIAM WILLIAMS. (2)

Wele ddarlun o ddiweddar briod Mrs. Mary Williams, 48 Ambrose Street, Bangor. Perthynai ef i'r Fyddin Diriogaethol, ac felly galwyd ef i fyny Awst 4, 1914. Cyrhaeddodd Ffrainc Mawrth 1, 1916, bu mewn amryw frwydrau, gwnaeth ei ran yn ddewr. Ond mewn ymosodiad Ebrill 25, 1918, clwyfwyd yn beryglus fel y bu farw ym mhen dau ddiwrnod, a chladdwyd ef ym Mynwent Filwrol Haringha, Poperinghe, Ffrainc, yn 24 mlwydd oed.

Bellach, 'does ond ymdawelu
I ewyllys fawr y nef;
Gan ddywedyd gyda'r Salmydd,
Gwneler ei ewyllys Ef.

—W. J. OWEN, (Afallon.)