Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE HUGH WILLIAM DAVIES.
Bachgen ieuanc a hoffus oedd Hugh i Mr, a Mrs. Hugh Davies, 42 Fountain Street, Bangor, Gyda'r Durham Light Infantry yr ymunodd ef Awst 10, 1917, ac aeth allan Ion. 7, 1918. Mawrth 23ain, fe'i cymerwyd yn garcharor gan y gelynion. Nid oedd y cyfaill hwn ond 19 mlwydd oed.
"A'i marw raid i mi
A rhoi fy nghorff i lawr?
A raid i'm henaid ofnus ffoi
I dragwyddoldeb mawr?"