Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CORPL EDWARD HERBERT GITTINS
Priod oedd ef i Mrs. Elizabeth Gittins, 125 High Street, Bangor. Dygwyd ef i fyny yn ddilledydd, ond ar doriad allan y rhyfel ymunodd â'r King's Liverpool Regiment. Aeth allan i Ffrainc ddiwedd y flwyddyn ganlynol, a chlwyfwyd ef yn beryglus ym mrwydr y Somme, Gorff. 1, 1916. Daeth drosodd i'r wlad hon a bu yma am fisoedd lawer yn gwella. Anfonwyd ef drosodd drachefn Mai 9, 1917, a chollodd ei fywyd ym mrwydr Cambrai, Rhag. 12, 1917, a chladdwyd ef ym mynwent Filwrol Faveneuil, Gogledd Bapaume, Ffrainc, yn 26 mlwydd oed.
"Os gwelir fi yn Salem lân,
'Nol dod trwy'r tân a'r dyfroedd,
Molianu wnaf, mewn cariad cu,
Ras Iesu yn oes oesoedd."