
PRIVATE HUGH P. GRIFFITH.
Dyma ddarlun o un o fechgyn hawddgaraf ein dinas, a mab i Mr. a Mrs. William Griffith, 303 High Street, Bangor. Ymunodd Hugh â'r 14 Royal Welsh Regiment. Ym mhen amser anfonwyd ef allan i Ffrainc, ac mewn ymosodiad mawr a ffyrnig, Saboth, Meh. 4, 1916, clwyfwyd ef yn drwm, a bu farw mewn Ysbyty ym mhen y pythefnos, a chladdwyd yr hyn oedd farwol ohono ym mynwent St. Omer, pan yn 21 mlwydd oed. Bu fyw y fath fywyd fel y tystiai ei gyd-filwyr ei fod yn berarogl i'w Waredwr.
Yr adnod ddiweddaf a adroddodd yn y Seiat cyn myned i Ffrainc oedd, "Na thralloder eich calon, yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finnau hefyd," ac yn rhyfedd iawn, yn ol adroddiad y Caplan i'w rieni, dyna y geiriau a adroddodd ychydig cyn marw.