Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofeb y Dewrion (Heroes'Memorial) Bangor 1914-18.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LIEUTENANT OSWALD GRIFFITH.

Darlun rhagorol yw yr uchod o ŵr ieuanc a rhagolygon disglair iddo, a gobeithion llu am ddyfodol llwyddiannus iddo, ond daw y geiriau hyn i'n meddwl gyda grym adnewyddol: "Nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr Arglwydd." Mab ydoedd ef i Mr. a Mrs. Robert Griffith, 5 Lonbopty, Bangor. Addysg wyd ef yn Ysgol y Friars, a Choleg y Brifysgol, Bangor. Wedi hynny aeth i ofalu am Ysgol Hardwick, oddi yno aeth yn Athraw Cynorthwyol i Ysgol Genedlaethol Caernarfon. Oddi yno drachefn aeth i Westborough Road Council School, Southend, yn athraw, ac oddi yma yr ymrestrodd i amddiffyn ei wlad ar doriad allan y rhyfel, gyda'r Royal Field Artillery. Chwef. 26, 1915, cwympodd drwy gael ei saethu gan German Sniper, a chladdwyd y noswaith honno yn Neuve Eglise, pan yn 27 mlwydd oed.