Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SERGEANT D. H. HUGHES, M.M.
Fel brawd hynaf i Miss Margaret Hughes, 12 Frondeg Street, Bangor, y mae y cyfaill hwn yn fwyaf adnabyddus, Wedi myned trosodd i Ffrainc, a chymeryd rhan mewn amryw frwydrau enillodd y Military Medal am amlygu ei ddewrder mawr, yr hyn a dynnodd sylw neilltuol awdurdodau milwrol ei wlad. Efe oedd y cyntaf yn Sir Gaernarfon i'w hennill. Ond mewn brwydr ffyrnig mewn lle yn agos i Albert, Ebrill 22, 1918, syrthiodd yntau yn aberth i gynddaredd ei elynion, yn 41 mlwydd oed.
"O! dilyn Grist trwy godi'r groes,
A dechreu 'nawr ym more d'oes;
Ac hyd yr hwyr dwg hi o hyd,
Tra pery'r bywyd yn y byd."