Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofeb y Dewrion (Heroes'Memorial) Bangor 1914-18.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE HUGH HUGHES

Darlun yw'r uchod o frawd tra adnabyddus a chymeradwy yn ein dinas, sef diweddar briod Mrs. Hannah Hughes, Kimberley House, High Street, Bangor. Ymunodd y gŵr tawel hwn â'r R.A.S.C. yn Awst, 1918. Pan yn Sydenham, cafodd anwyd trwm, yr hyn arweiniodd yn y diwedd i Pneumonia. Bu farw, a chladdwyd ef ym mynwent Glanadda, Bangor, Chwef. 26, 1919, yn 48 mlwydd oed.

Tawel fo'i hûn hyd fore y codi mawr.