Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE JOHN HUGHES
Mab oedd yr uchod i'r diweddar Mr. a Mrs. John Hughes, 11 Albert Street, Bangor. Ymunodd ef â'r adran honno o'r fyddin a adwaenir fel y King's Liverpool, Hydref 1916, a chollodd ei fywyd ym Mehefin 14, 1917, pan yn 40 mlwydd oed.
"Byr yw f'amser ar y ddaear
Pen y dalar sydd gerllaw;
O mor hapus fydd cael bywyd
Dedwydd yn y byd a ddaw;
Ni bydd yno wylo dagrau,
Galarnadau mam na thad;
Ofn y bedd a'i lwnc ofnadwy
O fewn trothwy Tŷ fy Nhad."