Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SAPPER JOHN IDWAL HUGHES
Darlun rhagorol yw hwn o fab hynaf Mr. a Mrs. R. Hughes, Islwyn, West End, Bangor, a fu farw o'r Dysentry, pan yn gwasanaethu ei wlad yn Nwyrain Africa, ac a gladdwyd ym mynwent Kilossa, Tachwedd 26, 1917, yn 20 mlwydd oed.
Fy nghalon aeth yn glaf wrth weled dorau
Y beddrod yn ymagor it' mor forau,
A thi mor deg, a mi mor hoff ohonot,
A chartref oll mor wag, mor bruddaidd hebot,
Paham na chawsom gadw'r blodyn tirion?
'Roedd yn y nefoedd eisoes flodau ddigon,
A! gwell er hynny oedd ei symud acw,
Lle nad oes, ar y dwyfol dir, un blodyn mir yn marw."
—ISLWYN.