Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE RICHARD HUGHES
Mab annwyl a charedig yw yr uchod i Mr. a Mrs. Hugh Hughes, Ynysgain Farm, Criccieth, ond a fu yng ngwasanaeth y London City and Midland Bank yn y ddinas hon cyn ymuno â'r fyddin. Addysgwyd ef i gychwyn yn Ysgol Llanystumdwy, ac yn Ysgol Ganolraddol Porthmadog. Ymunodd â'r Royal Welsh Fusiliers Tach. 22, 1915, a bu o dan ddisgyblaeth yn Kinmel Park, hyd Awst 27, 1916, pryd yr anfonwyd ef drosodd i Ffrainc, ac ar y 4ydd o Ragfyr, 1916, bu farw o'i glwyfau, a chladdwyd ym mynwent Beaumont Hamel, pan yn 22 mlwydd oed.
"A heibio'r dywell nos,
Fe ffy cymylau'r nen;
Fe ddaw'r addewid wir
A'i geiriau pur i ben:
Ceir gweld, ceir gweld yr hyfryd dir
Ar fyr o dro yn oleu clir."