Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE WILLIE HUGHES
Dyma ddarlun o un o'r cymeriadau prydferthaf y gwyddom am dano. Diweddar briod Mrs. Bessie Hughes, 1 Beach Road, Bangor, oedd ef. Dygwyd ef i fyny fel Dilledydd (Draper), ymunodd â'r 13th Royal Welsh Fusiliers Ebrill 12, 1916, anfonwyd ef drosodd i Ffrainc Hydref 23 yn yr un flwyddyn, a dyna ei hanes yntau, collodd ei fywyd, a chladdwyd ym mynwent Dowrlers Communal Extension, lle yn agos i Sandrecies, yn 29 mlwydd oed.
Huna gyfaill mwyn yn llonydd
Er ymhell o wlad dy froydd,
Deffro a wnai yn iach ryw ddydd
Ar ddelw dy lân Waredydd.
—W. J. OWEN.Afallon