Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE ALBERT MEURIG JONES
Mab oedd ef i Mr. a Mrs. John Meurig Jones, 24 Fair View Road, Bangor. Ymunodd y brawd ieuanc siriol a charedig hwn gyda'r Royal Welsh Fusiliers, Tachwedd 1914. Yr oedd ei dad yn gwasanaethu ar Troopship, a tri o'i frodyr yn gwasanaethu eu gwlad yn Ffrainc a lleoedd eraill. Aeth Albert i faes y gyflafan, a chlwyfwyd ef Rhag., 1916. Gwellhaodd ac aeth yn ol, a chlwyfwyd ef yr ail waith Mai, 1917. Gwellhaodd ac aeth allan drachefn, a chyfarfu â'i ddiwedd Hydref 1, 1917.
Na thralloder eich calonnau
Gan gymylau duon byd;
Na thralloder eich calonnau
Am wna angau yn y byd.
Cludo mae y saint i Ganaan,
Lle na welir un yn drist,
Pawb yn canu mewn llawenydd
Yng nghwmpeini Iesu Grist.
—W. J. OWEN. (Afallon.)