
PRIVATE EDWARD JONES
Wele ddarlun o un o fechgyn hawddgaraf y cylch, sef mab i Mr. a Mrs. Edward Jones, 5 Tandderwen Street, Llanllechid, gynt o Fair View, Bangor. Gorchwyl Ted cyn ymuno â'r fyddin oedd gyriedydd (Engine Driver) ar beiriant yn chwarel y Penrhyn, Bethesda. Ymrestrodd yn ddirwgnach â'r Royal Welsh Fusiliers, a gadawodd ei wlad a llu o gyfeillion am faes y rhyfel Gorff. 22, 1917. Dechreu y flwyddyn ganlynol anfonwyd i Ysbyty Rhyfel Keighley bod Edward yn dioddef oddi wrth y "Trench Fever." Wedi cael adferiad aeth allan yr ail waith, ac yn fuan collodd ei fywyd, sef Medi 1, 1918, pan yn 29 mlwydd oed. Dyma ei emyn mewn cyfarfod gweddi cyn myned i Ffrainc:
Dy ewyllys Di a wneler!
Ti sy'n gwybod, Arglwydd Iôr,
Beth yw uchter y mynyddau,
Pa mor arw fydd y môr:
Boddlon ydwyf
I'w hwynebu gyda Thi."