Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE EVAN JONES
Darlun yw yr uchod o fachgen ieuanc hawddgar ac annwyl i Mr. a Mrs. Evan Jones, 1 Tan y Bryn, Park Hill, Bangor. Gyda'r South Wales Borderers yr ymunodd Evan, ac wedi ei daflu yma a thraw i wahanol fannau, wele ei wyneb tua Ffrainc. Yno fe'i clwyfwyd yn ddifrifol Hydref, 1916, a bu farw yn Ysbyty y Clwyfedigion ym mhen un diwrnod ar bymtheg yn yr oedran ieuanc o 19 mlwydd oed.
"Mewn 'stormydd diri,
Mor felys i ni,
Yw cofio mae'r Iesu yw'n Bugail."
"Pa fugail mor fwyn,
Mor hoffus o'i ŵyn,
A defaid ei braidd ag yw'r Iesu."