Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofeb y Dewrion (Heroes'Memorial) Bangor 1914-18.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SERGEANT-MAJOR GRIFFITH JONES

Dyma ddarlun o Sergeant Major Griffith Jones, mab Mr. William Jones (Pilot), a'i wraig Mrs. Alice Jones, 3 Castle Hill Terrace, Bangor. Yr oedd y brawd hwn wedi ymuno â'r 12th South African Infantry Mounted Police. Bu farw mewn lle o'r enw Voi, Mawrth 17, 1916, yn 42 mlwydd oed.

"Hen awelon oer marwolaeth
Sydd yn deifio llysiau'r llawr—
Gwelir drwy holl erddi natur
Olion difrod yma 'nawr;
Hen ac ieuanc sydd i'w gweled
Yma'n cwympo ar bob llaw:
Marwol wyntoedd sydd yn chwythu
Hẹn awelon brenin braw."