Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofeb y Dewrion (Heroes'Memorial) Bangor 1914-18.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE HUGH JONES

Magwyd y cyfaill caredig hwn gan ei nain, Mrs. Jane Jones, 53 Fountain Street, Bangor. Yn wirfoddol yr ymunodd Hugh â'r Royal Welsh Fusiliers, a hynny ar ddechreu'r heldrin ofnadwy. Ym mhen blwyddyn a phum mis cafodd ei ryddhau, ond ni theimlai yn foddlon yn y sefyllfa hono, fel yr aeth ac yr ymunodd â'r Royal West Kent Regiment. Mewn ymosodiad mawr a ffyrnig yng nghymdogaeth Ypres, oddeutu Medi, 1917, collodd ei fywyd pan yn 29 mlwydd oed.

"Y Gwr a hoeliwyd ar Galfaria,
Fu yno'n talu'n dyled fawr,
Ydyw'r un a'm cwyd i fyny,
Er i angau nhorri lawr.
Ac er bod yn wael garcharor
Gan y bedd dros enyd bach,
Mi gaf godi pan ddel galw
Ar ei ddelw'n gwbl iach."