Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofeb y Dewrion (Heroes'Memorial) Bangor 1914-18.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SAPPER HUGH NORMAN JONES

Dyn ieuanc hardd ei foes a glân ei rodiad ydoedd y brawd hwn. Mab i Mr. a Mrs. Hugh Jones, Stanley House, Friars Road, Bangor. Derbyniodd ei addysg i ddechreu yn ysgol enwog St. Paul's, Bangor, wedi hynny aeth yn gyfrifydd (Clerk) i Lythyrdy y ddinas hon. Yn Ionawr 27, 1915, ymunodd â'r Royal Engineers. Rhagfyr 1af, anfonwyd ef allan i Ffrainc i wasanaethu gyda'r Expeditionary Force. Ond Tachwedd 29, 1917, tynnodd yntau ei gŵys i ben, a chladdwyd ef yn Nghladdfa Filwrol, Merville, pan yn 23 mlwydd oed. Yr oedd y brawd annwyl hwn yn cael ei ystyried yn un o'r dynion mwyaf siriol a phrydferth ei ymarweddiad yn ein dinas.