Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofeb y Dewrion (Heroes'Memorial) Bangor 1914-18.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE JOHN GWILYM JONES.

Dyma ddarlun rhagorol o ail fab Mr. a Mrs. John Jones, 41 Caellepa, Bangor. Yr oedd wedi ymuno â'r 4th Welsh Regiment. Collodd ei fywyd ar faes y gad, a chladdwyd ef ym mynwent Gouzeacourt, Medi 5, 1915, yn 21 mlwydd oed.

Draw yn Ffrainc mae llu yn gorwedd
O ieuenctid hardd eu gwedd,
A rhyw nifer fawr ryfeddol
Heb un maen i nodi'u bedd.
Ond maent oll yn hysbys ddigon
Gwr fu farw yn eu lle,
A gofala alw arnynt
Ato'i Hun i deyrnas ne'.

—W. J. OWEN. (Afallon)