Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SERGEANT JOHN JAMES JONES.
Mab annwyl a hoff oedd yr uchod i Mr. a Mrs. William Jones, Tŷ Gwyn, West End, Bangor. Ymunodd ef â'r Royal Welsh Fusiliers, a hynny ar doriad allan y rhyfel Awst, 1914. ac wedi bod o dan ddisgyblaeth anfonwyd ef allan i Ffrainc, Medi 1915. Mewn ymosodiad yn y lle fythgofiadwy hwnnw, Mametz Wood, Gorff. 12, 1916, collodd ei fywyd yn 24 mlwydd oed.
Cysged hun yn dawel
Dros ennyd yn y grafel,
Nes datod trefn y rhod
Ac yna mewn hedd
Cyfoded o'i fedd
Ar ddisglair wedd ei Briod."