Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE OWEN ELIAS JONES.
Dyma ddarlun o fab i Mr. a Mrs. Owen Elias Jones, 19 Park Hill, Bangor. Ymunodd Owen â'r Royal Welsh Fusiliers, Awst, 1915, ac anfonwyd ef allan ym mhen chwech wythnos. Bu mewn amryw frwydrau, a chollodd ei fywyd ym mrwydr fawr y Mametz Wood, Gorff., 1916, pan yn 24 mlwydd oed.
Pan fydd stormydd oer marwolaeth,
Stormydd yr Iorddonen gref:
'N lluchio'i thonau erch i fyny
Fel mynyddoedd hyd y nef,
Ni raid ofni
Os yw'r Sylfaen ar y Graig.
—W. J. OWEN. (Afallon.}