Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MORWR RICHARD JONES.
Un o'r teulu mawr gafodd ddifaen fedd y dyfnder mawr, ydyw Richard, diweddar briod Mrs. Elizabeth Jones, 48 Fountain Street, Bangor. Yr oedd hudoliaeth a swyn y môr wedi ei feddiannu yn ieuanc iawn, fel y gellir dweyd am dano ei fod yn llongwr hollol ddiofn. Yr oedd yn meddu ar ddewrder anghyffredin. Yn Awst, 1913, canfu rhyw rai mewn perygl ar afon Menai, anturiodd yntau allan i'w cynorthwyo, a diameu iddo achub eu bywydau rhag y dyfrllyd fedd. Am y weithred hon cyflwynwyd iddo gan y Brenin y Bronze Medal. Yn ystod y rhyfel cawn ef ar fwrdd y llestr H.M. Drifter "Deliverer," yr hon a gollwyd ynghyd â'r holl ddwylaw Tachwedd 6, 1917, pan yr oedd Richard yn 39 mlwydd oed.