Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE RICHARD EVAN JONES.
Dyma ddarlun o fab Mr. Rowland a Mrs. Jane Jones, Tai Coed, Penrhosgarnedd, Bangor. Dywed hen ddihareb, "Ymhob gwlad y megir glew," a milwr dewr a phrofiadol ydoedd y dyn ieuanc hwn. Bu am amryw flynyddoedd yn India, ar doriad allan y rhyfel anfonwyd ef drosodd i Ffrainc, gyda'r Royal Welsh Fusiliers. Ond yn un o'r ymosodiadau ofnadwy a byth gofiadwy fu yng nghyffiniau Mons, Hydref 23, 1914, syrthiodd ar fryn yr aberth mawr, yn 29 mlwydd oed.
"Try pawb eu cefnau, dyma'r dydd
Gadawant fi'n fy ngwely pridd."