Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GUNNER THOMAS JONES.
Mab oedd yr un sydd a'i ddarlun uchod i Mr. a Mrs. Richard Jones, 30 Upper Garth Road, Bangor. Ymunodd â'r R.F.A., Hydref, 1916; aeth allan i'r Armagedon ofnadwy Ebrill 20, 1917. Mewn brwydr Hydref 3, 1917, yn agos i Ypres, collodd ei fywyd trwy ffrwydr-belen y gelynion, pan yn 31 mlwydd oed.
Dyma un o'i hoff emynau:
"Ar ol gofidiau dyrus daith,
A gorthrymderau filoedd,
Hyfrydol falm o nefol ryw
I'r wan, flinedig, fynwes yw
Cawn orffwys yn y nefoedd."