Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofeb y Dewrion (Heroes'Memorial) Bangor 1914-18.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LIEUT. LLYWELYN LEWIS.

Wele ddarlun eto o fab annwyl i'r diweddar Mr. Thomas Hugh Lewis, a Mrs. Lewis, Bronwylfa, Bangor. Addysgwyd ef yn Ysgol y Poplars, Bangor, a'r Kings School, Caer. Wedi hynny aeth i wasanaeth y National Provincial Bank, yn Manchester, ac oddi yno yr ymunodd â'r 11th Battalion, Royal Welsh Fusiliers ar doriad allan y rhyfel, 1914. Gan ei fod wedi gwasanaethu gyda'r Tiriogaethwyr (Territorials), dyrchafwyd ef yn fuan yn Lieutenant, ac fel y cyfryw aeth allan yn 1915, a bu yno yn gyson, ac mewn brwydrau enbyd hyd yr ymosodiad bythgofiadwy yn Mametz Wood, yn Gorffennaf, 1916, pan y collodd ef a llu o'i gyfeillion eu bywydau. Yr oedd yn 24 mlwydd oed

"Rhaid ydyw puro'r aur trwy dân
I'w ddwyn i werth a bri;
A phuro'r saint a raid yn lân
Wrth dy ewyllys Di."