Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofeb y Dewrion (Heroes'Memorial) Bangor 1914-18.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE HUGH MILLER.

Mab annwyl a hoffus ydoedd yr uchod i'r diweddar Mr. William a Mrs. Jane Miller, 16 Park Hill, Bangor. Ymunodd Hugh, Gorff. 2, 1917, â'r Border Regiment, ac a aeth allan i Ffrainc, Mawrth 17, 1918, ond mewn brwydr boeth ym Mryn Kimel, Ebrill 10, 1918, fe syrthiodd yntau, yn 23 mlwydd oed. Yr oedd yn fachgen hoffus gan bawb, a chredwn iddo gefnu ar wlad y gâd a'i wyneb ar wlad na cheir sŵn gynnau na magnelau yn ei chyffiniau, i fro a thrigfannau mwy cydnaws lawer â'i ysbryd tawel.